OlwenTHOMAS(Anti Ol) Yn dawel yng Nghartref Nyrsio Bodawen, Porthmadog yn 95 mlwydd oed. Gynt o 7 Cambrian Terrace, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog. Merch y diweddar John a Annie Mary Thomas, chwaer y diweddar David John (Tonto) a Eurwel Thomas (Bew). Modryb annwyl Eurwel, Jackie a'r teuluoedd oll. Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghapel Carmel, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog dydd Mawrth 15fed o Dachwedd am 11:00 y.b. Ac yna i ddilyn ym mynwent Bethesda, Manod. Ymholiadau Gareth Williams (John Williams a'i Fab) Trefnwyr Angladdau 15 Heol Dorfil, Blaenau Ffestiniog. Ffon : 01766 830 441.
Keep me informed of updates