BryanTHOMASGelliddu Yn dawel yn ei gartref ar Sul, 6ed o Fedi yn 80 mlwydd oed hunodd Bryan, Gelli Onnen, Heol Bolahaul, Cwmffrwd, Caerfyrddin. Gynt o Fferm Gelliddu. Priod ffyddlon Eirlys, tad balch Gareth, Rhodri a'r diweddar Huw, tad-cu cariadus Hannah, Jac, Ben, Bryn a Harri, tad-yng-nghyfraith hoffus Heather a Claire a brawd annwyl y diweddar Ronald. Angladd preifat yn ôl y canllawiau ar Sadwrn, 12fed o Fedi yng Nghapel Penygraig, Croesyceiliog. Bydd yr angladd yn gadael ei gartref am 12.45yp ac yn teithio ar hyd Heol Bolahaul ac yn troi ger Eglwys Santes Ann i gyfeiriad Penygraig. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Papur Llafar y Deillion, Capel Penygraig neu Prostate Cymru trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 241626 / 237100
Keep me informed of updates