John DelwynTHOMASDil Pantstreimon Yn annisgwyl ddydd Mawrth Ionawr 5ed 2021 yn 83 mlwydd oed hunodd Delwyn, Pantstreimon, Capel Dewi, Llandysul. Priod hoff Nan, tad gofalus y diweddar Wyn, tad yng nghyfraith parchus Rachel, tadcu annwyl Siriol a brawd yng nghyfraith hoffus Rosie a'r diweddar Rod. Gwasanaeth angladdol hollol breifat yn Amlosgfa Aberystwyth ddydd Gwener Ionawr 15fed 2021 am 1 o'r gloch. Derbynnir rhoddion os dymunir tuag a Tir Dewi trwy law Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul. SA44 4XB Ffôn 01545 590254
Keep me informed of updates