Gwenville MayTHOMASYn dawel ar Chwefror 6ed 2021, yn 89 mlwydd oed, bu farw Gwen o St John's Court, Caerfyrddin. Yr ieuangaf a'r olaf o bump o ferched y diweddar Daniel a Sarah Davies o Gapel Dewi, Llandysul a gweddw y diweddar David Henry Thomas. Mam gariadus Delyth, chwaer, modryb a ffrind hoffus a ffyddlon i lawer iawn. Fe welir ei heisiau yn fawr gan bawb. Angladd preifat yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth dydd Mawrth, Chwefror 23ain 2021. Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion er cof, os dymunir, i 'Stroke Association' trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 241626 / 01267 237100
Keep me informed of updates
Add a tribute for Gwenville