CathrinTHOMASYn dawel yn ei chartref, Barrach Fawr, Llangian, yng nghwmni Aled, Llinos ac Ellen, ar ôl gwaeledd hir. Cymar a ffrind arbennig i Aled, mam orau'n y byd i Llinos a'i gŵr, Kevin, a nain a oedd yn un o fil i Caterina, Kalice, Kayson a Caiden. Chwaer hoff i Hugh, Alwyn, Ellen a'r diweddar John, a chwaer-yng-nghyfraith, modryb, ffrind a chymydog triw i lawer. Gwasanaeth hollol breifat, yn ôl ei dymuniad, a thrwy wahoddiad yn unig. Gwerthfawrogir rhoddion er cof am Cathrin tuag at Gronfa Nyrsus Cymuned Botwnnog, trwy law Rhys ac Eluned Jones, Ysgubor Ddegwm, Llangian (Siop Llangian), Gwynedd. LL53 7LN. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Notify me with new activity on this notice