CeridwenTHOMAS(Cerri) 16 Rhagfyr, 2024. Yn dawel yn ei chartref, 11 Rhandir Mwyn, Caernarfon, yn 82 mlwydd oed. Priod addfwyn y diweddar William John Thomas, mam gariadus Gillian, Brenda, Diane a Denise, a mam-yng-nghyfraith hoff Ian, Michael a Paul; hefyd yn nain falch i wyth o wyrion a wyresau, yn hen-nain hefyd i wyth, ac yn chwaer ofalus, yn fodryb ffyddlon ac yn ffrind triw i lawer.
Angladd fore Iau, 9 Ionawr, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Llanbeblig, Caernarfon am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd yn y Fynwent Newydd. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Cerri tuag at elusennau lleol. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL555 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Ceridwen