ElonwyTHOMASYn dawel, yn ei chartref, fore Gwener, 20fed Mehefin, 2025 bu farw Elonwy, Tegfan, Capel Dewi, Caerfyrddin, gynt o Ffynnon Ddewi, Capel Dewi. Priod hoff Dewi, mam annwyl Bethan, Janet, Gareth a Carys, mam yng nghyfraith gefnogol, a mamgu garedig a gofalus ei hwyrion a'i gor-wyrion.
Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng nghapel MC Nantgaredig ddydd Llun, Gorffennaf 14eg am 11.30 y bore. Blodau'r teulu'n unig, rhoddion os dymunir i Nyrsus Cymunedol Meddygfa 'Furnace House' trwy law Mr Hywel Rees, Alveston, Heol yr Orsaf, Nantgaredig. SA32 7LG. 07779 010780. Sieciau yn daladwy i 'Carmarthen Town District Nurses.' Ymholiadau i'r trefnwr angladdau Tom Lewis, Aneddle, Pencader. 01559 384279
Keep me informed of updates