GlenysTODDYn sydyn yn ei chartref ddydd Mawrth, Mehefin 15fed, 2021, bu farw Glenys, Hafod yr Efail, Capel Newydd, Boncath yn 87 mlwydd oed, priod annwyl y diweddar Eddie, mam gariadus Siân a Warren, mam-gu falch Ffion a Hafwen, chwaer hoffus Peter a modryb hoff. Angladd hollol breifat, trwy wahoddiad yn unig, yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth ddydd Iau, Mehefin 24ain am 11.30 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, derbynnir rhoddion, os dymunir, tuag at Ambiwlans Awyr Cymru trwy law Alun M. Esau, Trefnwr Angladdau, Soar, Sarnau, Llandysul, Ceredigion. SA44 6QS. Ffôn 01239 654240.
Keep me informed of updates