Eryl HafTOMOSTOMOS - ERYL HAF Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd ar Ddydd Calan, 2016, ac o Bron Wylfa, Llandwrog, yn 89 mlwydd oed. Priod gariadus Arial, a mam dyner Llio, Angharad, Fflur, Manon a Ffion; chwaer annwyl Manon a nain a hen-nain garedig. Angladd brynhawn Gwener, 8 Ionawr, 2016. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Ebeneser, Caernarfon am 1.00 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Llanbeblig. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at Apêl Ty Gobaith ac Ymchwil Cancr. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 012878658.
Keep me informed of updates