DafyddTUDURTUDUR DAFYDD, 22 Mawrth 2015, yn frawychus o sydyn, yn 27 mlwydd oed, o 3 Ger y Nant, Y Felinheli ond yn wreiddiol o Rhandir, Morfa Nefyn. Mab annwyl Esyllt a Gareth, brawd gofalus Rhys a Marged a chymar cariadus Catrin Elen Morgan, wyr mawr ei ofal o Ena Morris Jones a Brenda Maelor a'r diweddar Dafydd (Eic) Morris Jones a Gareth Maelor, cefnder hoff Llyr, Gwion, Branwen, Non, Guto, Lisa, Siôn, Sara, Lois, Daniel, Lea, Begw ac Eleias. Nai arbennig y diweddar Bryn, Jan, Gwyn, Bethan, Bethan Catrin, Glyn, Gwawr, Richard, Swyn a Rhodri a ffrind i lawer. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Moreia Morfa Nefyn, dydd Llun, 30 Mawrth, 2015 am 11.00 y bore ac i ddilyn ym mynwent Cefnfaes, Rhos Isaf, Caernarfon. Blodau'r teulu yn unig ond pe dymunir, derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Dafydd at Sefydliad y Galon Cymru, Elusen Gôl, Plaid Cymru ac at achosion da eraill a oedd yn agos i'w galon trwy law'r ymgymerwyr Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes, Gwynedd. LL54 6PL. 01286 881280/678658.
Keep me informed of updates