EurynVAUGHANVAUGHAN. - EURYN, Ebrill 29 2020. Yn dawel yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan yn 80 mlwydd oed o Bryn Fychan, Betws yn Rhos gynt o Bryn Ffanigl Isa. Priod ffyddlon a chariadus Gwyneth, tad gofalus a chefnogol i Sarah,Gareth, Gwynne ac Eurwyn tad yng nghyfraith hoff i Jason, Rhiannon, Lil a Cathy, taid amrhisiadwy a balch i Ryan, Ffion, Gethin, Bethan, Sian, Tomos, Gwenllian, Elen a Catrin a brawd hoff i Dafydd a Ceinwen, colled drist i'w deulu a ffrindiau oll. Gwasanaeth preifat i'r teulu yn unig ar lan y bedd ym Mynwent Gymunedol Betws yn Rhos Ddydd Mercher Mai 6ed am 2.00 o'r gloch. Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus o ddiolchgarwch i ddathlu bywyd Euryn yn ddiweddarach yn dilyn yr argyfwng presennol. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Uned Arennau Ysbyty Glan Clwyd trwy law R.W.Roberts a'i Fab, Plas Tirion, Rhodfa Kinmel, Abergele LL22 7LW Ffon 01745 827777.
Keep me informed of updates