EurynVAUGHANDymuna Gwyneth a theulu y diweddar Euryn Vaughan, Bryn Fychan, Betws yn Rhos ddatgan eu diolch cywiraf i berthnasau, ffrindiau a chymdogion am bob arwydd o garedigrwydd a chydymdeimlad a amlygwyd iddynt yn eu profedigaeth. Diolch arbennig i Dawn Oliver o Uned Arennau Ysbyty Glan Clwyd am bob gofal dros y blynyddoedd. Gwerthfawrogwyd y gwasanaeth teimladwy dan ofal y Parch Helen Wyn Jones a hefyd cyfraniad cerddorol Trystan Lewis ar lan y bedd. Hoffem hefyd gydnabod yn ddiolchgar y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Euryn tuag at Uned Arennau Ysbyty Glan Clwyd a diolch hefyd i Hefin o R.W.Roberts a'i Fab am ei ofal tyner a threfniadau urddasol.
Keep me informed of updates