Philip MorrisWALTERSYn ei gartref ar Fehefin 24, 2015 yn 76 oed, ar ol salwch sydyn, Philip o Elm Grove, Aberdar, Crwner Ei Mawrhydi (wedi ymddeol); priod cariadus i Iris, tad annwyl i David, tad-yng-nghyfraith annwyl i Elizabeth a thadcu hoffus i Eleri ac Aled. Gwasanaeth angladd ar Dydd Mawrth Gorffennaf 7, 2015 am 12.30pm yn Eglwys Sant Ffagan, Trecynon, Aberdar ac wedyn yn Amlosgfa Llwydcoed am 1.30pm. Blodau'r teulu yn unig, rhoddion os dymunir i NAS Cymru a Bobath Cymru trwy ddwylo'r Trefnwyr Angladdau, T Teify Davies Ltd, 217 Heol Penrhiwceiber, Meisgyn, Aberpennar. Ffon 01443 476301.
Keep me informed of updates