Catherine JoanWILLIAMS(Joan Blaenwern) Yn dawel yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar ddydd Iau Medi 22, 2016 hunodd Joan, Blaenwern Castell Newydd Emlyn, yn 87 mlwydd oed; priod hoff y diweddar Martin, mam gariadus Janet a'i phriod Alan (AJ) ac Alan, mamgu annwyl Owain, Rhys a'i briod Nabila, Leasha, Carys ac Issac, hen-famgu tyner Karamia, Sara a Maya. Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus a Chladded-igaeth yng Nghapel Salem, Brongest ddydd Sadwrn Hydref 8, 2016 am 11.00 o'r gloch. Plethdorch y teulu yn unig, derbynnir cyfraniadau er cof os dymuner, tuag at Meddygfa Emlyn trwy law'r Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Catherine