AnnWILLIAMSWILLIAMS - Dymuna Ann, Alun a theulu'r diweddar IVOR WILLIAMS, 8 Glan Cefni, Llangefni ddiolch o galon i bawb am y cydymdeimlad a'r caredigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth diweddar. Dymuna'r teulu ymestyn eu gwerthfawrogiad i'r Parchedig Euros Jones am ei wasanaeth ddiwrnod yr angladd ac i'r Rheithor Deiniol Prys a'r Parchedig Christopher Prew, hefyd i Mr. Ieuan Redvers Jones am ei deyrnged afaelgar. Diolch i Mrs. Morfydd Edwards am chwarae'r organ ac i holl aelodau Capel Ebeneser, Rhosmeirch am eu cymorth parod. Yn ogystal hoffent ddiolch yn fawr iawn i bawb am y rhoddion ariannol a dderbynwyd er cof am Ivor Williams i gronfa mynwent Capel Ebeneser, Rhosmeirch. Diolch arbennig i'r ymgymerwyr R.Hughes a'i Fab, Llangefni am eu trefniadau trylwyr a gofalus a wnaethpwyd mor urddasol.
Keep me informed of updates