HughWILLIAMSWILLIAMS - HUGH TECWYN (Tec Refail). Gorffennaf 29, 2009. Yn sydyn yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd, ac o Efail Garn, Garnfadryn, yn 74 mlwydd oed. Priod ffyddlon a gofalus Magw, a thad cariadus Ifan, Lona a Melfyn, tad yng nghyfraith annwyl Geraint a Mari. Taid arbennig Guto, Tomos, Owain, Huw, Lois a Iolo. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Rehoboth, Llaniestyn, dydd Mercher, Awst 5ed am 1 o'r gloch, ac i ddilyn ym Mynwent Penrhos. Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, Meddygfa Rhydbach a Hosbis yn y Cartref ar y plat offrwm yn y capel, neu trwy law yr Ymgymerwr E.W. Pritchard, Morfa Nefyn. Ffon. 01758 720219
Keep me informed of updates