GwilymWILLIAMSWILLIAMS - GWILYM SAMUEL. 13 Rhagfyr, 2009. Yn sydyn ond eto'n dawel yn ei gartref, 1 Glan Llyfnwy, Nantlle, yn 47 mlwydd oed. Mab addfwyn a thirion y diweddar Owen Cyril (O.C.) a Margaret, brawd hoff Merfyn, Alun a Gwenda, a brawd-yng-nghyfraith annwyl Maureen, Frances a Dave. Hefyd nai, ewythr a chyfaill triw, y bydd colled fawr ar ei ol. Angladd brynhawn Iau, 17 Rhagfyr, 2009. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Baladeulyn M.C., Nantlle am 2.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah, Pen-y-groes. Blodau'r teulu'n unig, ond bydd y rhoddion a dderbynnir yn mynd fel offrwm yn ddiolchgar er cof amdano tuag at waith Epilepsy Research UK. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. Ffon: 01286 881280.
Keep me informed of updates