SarahWILLIAMSWILLIAMS - SARAH ALICE (Sally) Gorffennaf 28, 2008, yn dawel yn ei chartref yng nghwmni ei theulu yn 7 Bro Heli, Pwllheli, (gynt o Rhosneigir), yn 83 mlwydd oed. Mam arbennig Gill a Gareth, mam-yng-nghyfraith Alwyn a Helen, nain annwyl Sharon, Mark, Alison, Dawn a Kelly, hen nain Michael, Ffion ac Angharad, hoff chwaer Emyr, Hefin a'r diweddar Irfon, Eryl a Betty, Gwasanaeth dydd Llun, Awst 4ydd yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli am 1 o'r gloch ac i ddilyn ym Mynwent Denio. Blodau'r teulu agosaf yn unig, ond os dymunir fe dderbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Hospis yn y Cartref a Meddygfa Botwnnog, trwy law G.D.Roberts a'i Fab, Capel Gorffwys, Pwllheli Tel: 01758 701107
Keep me informed of updates