MurielWILLIAMSWILLIAMS - MURIEL , Chwefror 20fed 2018. yn dawel yng nghwmni cariadus ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor o Crud yr Awel, 1 Garneddwen, Bethesda yn 78 mlwydd oed. Gwraig gariadus y diweddar John a Mam arbennig Diane a Gareth, Nain annwyl a chariadus Richard, Andrew, Laura, Sioned, Dylan a Katie a Hen Nain Shaun, Dafydd a Ben, Chwaer ffyddlon Olwen, Huw, Tecwyn a'r diweddar Megan, Mair, Glenys a Vera, Mam yng nghyfraith Aled a Gwenan, ffrind arbennig Alwen. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Jeriwsalem, Bethesda ddydd Mawrth Chwefror 27ain am 1.00 o'r gloch a rhoddir i orffwys yn Mynwent Coetmor. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru, trwy law Gareth Williams Cyfarwyddwr Angladdau 1 Ffordd Garneddwen, Bethesda Ff?n 01248 600763.
Keep me informed of updates