OswaldWILLIAMSWILLIAMS - OSWALD. Mehefin 14eg 2009 yn ddisymwth yn ei gartref Preswylfa, Pentrefoelas yn 75 mlwydd oed. Priod annwyl Jane, tad tyner Elfed ac Emyr, tad yng nghyfraith Bev a brawd Eifion. Angladd Dydd Llun, Mehefin 22ain. Gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Bae Colwyn ac i ddilyn Gwasanaeth Coffa Cyhoeddus yng Nghapel Jeriwsalem, Cerrigydrudion am 1.30 o'r gloch y prynhawn. Blodau gan y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Mencap Rhuthun trwy law Williams & Davies, Penlan, Pentrefoelas. 01690 760263.
Keep me informed of updates