BenjaminWILLIAMSWILLIAMS - BENJAMIN (Ben), Gorffennaf 3ydd, 2009, yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor o 35 Ffordd-y-Maer, Pwllheli, yn 86 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Dorothy, tad arbennig Edryd a'i gymar Sheena, Awen a'i phriod Dewi, Meirion a'i briod Nina, taid caredig Gethin, Elan, Cadi, Efa, Sion, Dylan a'u mam Bethan, hoff frawd Myfi a'r diweddar Mary, Robin ac Enid, brawd-yng-nghyfraith Jennie, Evelyn a'r diweddar Stan, Hugh, Gwilym a John. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Seion, Pwllheli, ddydd Gwener, Gorffennaf 10fed, am 12.15 o'r gloch ac i ddilyn yn breifat yn Amlosgfa Bangor. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Gronfa Cyfeillion Ysbyty Bryn Beryl, trwy law G. D. Roberts a'i Fab, Capel Gorffwys, Pwllheli. 01758-701107.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Benjamin