Eirian HafWILLIAMSWILLIAMS - EIRIAN HAF. 1af o Fehefin 2015. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd yng nghwmni ei theulu yn 36 mlwydd oed, o Penrallt, Y Sgwar, Blaenau Ffestiniog (gynt o Heol Jones). Mam balch a chariadus Dyfed Wyn a Ioan, partner ffyddlon Meilir, merch arbennig Gareth a Margaret, chwaer annwyl Carys Wyn a'i phriod Shaun, modryb hoffus a herllyd Shauna, Emily, Chloe, Mabon a Deio, nith a chyfneither annwyl i'w theulu a ffrind da i nifer. Fydd colled enfawr ar dy ol Eirian. Gwasanaeth cyhoeddus mewn gwisg anffurfiol yn ol ei dymuniad yn Eglwys Dewi Sant, Blaenau Ffestiniog, Dydd Mercher 10fed o Fehefin am 1.00 o'r gloch y.p yna i'w ddilyn ym Mynwent Llan Ffestiniog. Blodau'r teulu agosaf yn unig, derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar os dymunir i'w rhanu rhwng ward Alaw, Ysbyty Gwynedd a Ymchwil Cancr Cymru trwy law Gareth Williams (John Williams a'i Fab) Trefnwyr Angladdau, 15 Heol Dorfil, Blaenau Ffestiniog. Ffon: 01766 830 441
Keep me informed of updates