Thomas RoderickWILLIAMSWILLIAMS - THOMAS RODERICK, 5ed o Ragfyr 2017. Yn dawel yng nghwmni ei deulu, o Coed Mawr, Llanfachreth, yn 80 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Grace, tad gofalus Catherine, Llion a Robat, tad-yng-nghyfraith Ian a Gemma, taid balch Sera Grace, Alaw Mair, Gwenno Catrin, Tomos Eilir a Ned Daniel, brawd hoff Mair a'r diweddar Daniel, a brawd-yng-nghyfraith Wil. Gwasanaeth yn Eglwys Sant Machreth, Llanfachreth, dydd Gwener 15fed o Ragfyr am 2 o'r gloch. I ddilyn yn y Fynwent. Dim blodau. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Neuadd Bentref Llanfachreth, trwy law Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, 5 Rhes Eldon, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1PY. Ff?n: 01341 422 322 neu Dinas Mawddwy 01650 531 240.
Keep me informed of updates