AnnWILLIAMSAnnie Bronaber Trawsfynydd. Dymuna Elfed, Nerys, Gwyn, Dewi a'r teulu oll ddiolch o waelod calon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli mam a nain annwyl ac arbennig. Diolch am wasanaeth hyfryd yng ngofal y parch Anita Ephraim a'r parch John Lewis Jones ac i'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr ac urddasol. Diolch am y rhoddion hael o £1,500 a dderbyniwyd er cof am Annie i'w rannu rhwng Ysbyty Dolgellau a Chanolfan Iechyd Trawsfynydd.
Keep me informed of updates