Robert EirwynWILLIAMSWILLIAMS - ROBERT EIRWYN (Robin Pant Glas Cennin), 21ain Mawrth 2020. Yn dawel yng Nghartref Nyrsio Meddyg, Porthmadog ag o Pant Glas Cennin, Garndolbenmaen yn 78 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Nerys, tad cariadus Eirian, Glenys a'r diweddar Trefor, tad yng nghyfraith Paul, Cliff a Rangi, taid balch Mari, Mathew, Chris, Aled, Angharad, Elin, Cian, Iwan, Elis a Llewelyn a hen daid hoffus Mared, Meilir, Macsen a Morgan. Gwasanaeth angladd preifat i'r teulu agosaf yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Gronaf Gofal Dementia trwy law'r ymgymerwr Ifan Hughes, Ceiri Garage, Llanaelhaearn. Ffon 01758 750238. Dymuna'r teulu ddiolch o waelod calon i holl staff Cartref Meddyg am eu gofal tyner o Robin dros ei gyfnod yno.
Keep me informed of updates