Hugh FinleyWILLIAMSWILLIAMS - HUGH FINLEY, Ebrill 24ain 2020. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn ei gartref Llys Awel, Cambrian Terrace, Porthmadog ar drothwy ei benblwydd yn 90 oed. Gwr cariadus Menna a thad balch Nan a Derfel a'r diweddar Gwen a Gareth F., brawd hoffus Marian, taid annwyl Meinir ac Arwel a hen daid Betsi a Casia. Gwasanaeth preifat, oherwydd yr amgylchiadau presennol, yn Amlosgfa Bangor ddydd Llun, Mai'r 4ydd . Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Nyrsys Ardal Eifionydd, drwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Heol Dulyn, Tremadog LL49 9RH - 01766 512091
Keep me informed of updates