David WynnWILLIAMSWILLIAMS - DAVID WYNN (Jac), Gorff 27, 2020. Bu farw David yn dawel yn ei gartref yn Wolverhampton, Lloegr, yn 64 mlwydd oed, ar ddiwedd brwydr o dros bedair blynedd yn erbyn cancr y pancreas. Mae'n gadael Sheila, a fu'n bartner iddo ers 15 mlynedd; ei frawd Trefor a'i wraig Barbara; cefndryd a chyfnitherod yng Nghymru, Lloegr ac UDA; llu o ffrindiau a'i gyd-weithwyr yn Wolverhampton Metro. Roedd David yn blastrwr a thöwr yn ôl ei grefft, ond o ran anian 'roedd yn gerddor cain a chwaraewr Iwffoniwm arbennig. Bu'n aelod o fandiau Trefor a'r Rhyl am nifer o flynyddoedd. Mae ei waith adeiladu, sy'n sefyll heddiw, yn dyst i'w grefft, ond yn fwy arbennig bydd llawer yn colli clywed swyn nodau peraidd ei Iwffoniwm. Roedd ei wybodaeth am fyd natur yn helaeth, ac yn neilltuol felly yn ei filltir sgwâr o amgylch yr Eifl a phentref Trefor, Gwynedd. Un o hoffterau mwyaf David oedd adar gwyllt; felly, derbynnir rhoddion yn lle blodau at Gymdeithas Ted Breeze Jones trwy law yr Ymgymerwr. Cleddir ei lwch ym medd ei fam a'i dad, Wynn a Henry Williams, yn ystod cyfarfod awyr agored cyhoeddus, ym Mynwent Newydd Trefor, am 1pm, 22ain Awst, 2020. Cedwir o fewn gofynion Covid19. Ymgymerwr: Ifan Hughes, Garej Ceiri, Llanaelhaearn, Gwynedd. (01758) 750238
Keep me informed of updates