HildaWILLIAMSDymuna Ieuan a holl deulu y ddiweddar Hilda Williams, Bwlch Cynnud, Dolwyddelan ddiolch yn fawr iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Hilda - priod, mam, mam yng nghyfraith, nain a hen-nain annwyl a chwaer a ffrind arbennig iawn. Diolch i'r Parch Gerwyn Roberts am ei wasanaeth teimladwy ddydd yr angladd ac i Buddug am ei theyrnged arbennig i'w nain. Diolch i Hefin a chwmni ymgymerwyr R.W.Roberts a'i Fab am eu trefniadau urddasol a gofalus. Diolch arbennig i'r holl gofalwyr cartref a nyrsus bro a thîm Meddygfa Betws y Coed am eu gofal caredig. Diolch i bawb am eu cyfraniadau er cof am Hilda tuag at Hosbis Dewi Sant, Ymchwil Cancr ac Ymchwil Motor Neurone(MND). Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates