DavidWILLIAMSYn dawel yn ei gartref ar ddydd Sadwrn, Ionawr 2ail 2021 yn 101 oed bu farw David Williams gynt o Danycoed, Bancyfelin. Priod hoff y diweddar Esther Mary, tad cariadus Annalyn, tad-yng-nghyfraith parchus y diweddar Lyn, tad-cu annwyl Mared a'i gŵr Sean, a hen dad-cu balch i Lili a Lotti. Ffrind arbennig. Arwr o'r Ail Rhyfel Byd a dderbyniodd anrhydedd Légion d'honneur o Ffrainc. Gadewir bwlch enfawr ar ei ôl. Angladd preifat i'r teulu ar ddydd Llun, Ionawr 11eg 2021. I ffrindiau sy'n dymuno talu teyrnged iddo gellir gwneud hynny ar ei daith olaf o'i gartref am 11.15yb, trwy bentref Bancyfelin, heibio Danycoed ac i fynwent Gibeon. Dim blodau. Rhoddion er cof, os dymunir, at Cymorth Cristnogol neu 'Royal British Legion St Clears Branch' trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 241626 / 01267 237100
Keep me informed of updates