Esther Ann JaneWILLIAMSYn dawel ar fore Iau, Ionawr 21ain yn ei chartref ym Mancycapel hunodd Jenny yn 90 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Cliff, mam a mam-gu barchus Carol, David, Sioned, Deiniol, Telor a Lowri. 'Mam-gu Jen' dyner Marged a Gruffydd. Chwaer hoffus Michael a'r diweddar Lilian ac Oswyn a ffrind i lawer. Angladd breifat yn unol â'r amgylchiadau yn Eglwys Llandyfaelog am 11.00yb ar Chwefror 4ydd, 2021. Bydd yr angladd yn gadael ei chartref am 10.40yb. Ymholiadau pellach: Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Caerfyrddin. Ffôn: 01267 241626 / 01267 237100
Keep me informed of updates