John NormanWILLIAMSWILLIAMS - JOHN NORMAN, 12 Chwefror, 2021. Yn dawel yn Ysbyty Bryn Beryl ac o'r Hendre, Caernarfon, yn 96 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Ellen, tad cariadus Rhian, Eirwen a Helen, taid hoffus Rhodri ac Elena a hen-daid clên Non, Cadi, Efan, Elen, ac Idan. Gwasanaeth angladdol ar lan y bedd ym Mynwent Llanbeblig, Caernarfon, brynhwawn Iau, 25 Chwefror am 1.00 o'r gloch. Bydd yr hers yn cychwyn o'r Hendre am oddeutu 12.45 o'r gloch ac yn cael ei harwain gan geffyl drwy Stâd yr Hendre. Mae croeso i ffrindiau a chymdogion dalu'r deyrnged olaf iddo yn y fynwent, gan ddilyn y rheolau pellter perthnasol. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at elusennau lleol. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates