BuddugWILLIAMS (Anti Marian Pobol y Cwm)Anti Marian Pobol y Cwm Yn dawel ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 24 yng Nghartref Plas y Bryn, Buddug gynt o Gefneithin. Priod hoff y diweddar Elwyn, mam gariadus Rhodri, mamgu dyner Gwen, mam-yng-nghyfraith barchus Siân, chwaer addfwyn y diweddar Wyndham, Raymond a Hilda a modryb hoffus Kathryn, Diane, Richard, Jeffrey a'r diweddar Stella. Yn gorwedd yng nghapel gorffwys Wyn Bishop tan yr angladd ar ddydd Gwener, Awst 13, yn Amlosgfa Llanelli am 1.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, rhoddion os dymunir i Ymchwil Alzheimer's, trwy law Wyn Bishop, Waunddewi, 43 Heol Cross Hands, Gorslas, Llanelli, SA14 6RR.
Notify me with new activity on this notice