GeraintWILLIAMSDydd Sadwrn Rhagfyr 18fed 2021. Hunodd yn dawel yng nghwmni ei deulu. Mab arbennig y diweddar Robert a Jennie Page Williams, gynt o Hafan Deg, Ala Isaf, Pwllheli. Brawd amrhiaiadwy David, Megan, Hywel, Carys, Bethan a'r diweddar Gwyn. Ffrind annwyl i'w deulu i gyd. Diolch arbennig i Carys, William a Geraint R am eu gofal tyner ohono. Bu'n weithgar trwy gydol ei fywyd a lladmerydd dros bobl sy'n wynebu annhegwch a gorthrwm. Angladd hollol breifat. Buasai'r teulu yn croesawu rhoddion er budd Banc Bwyd Pwllheli, a hynny trwy law G W Parry, Gallt y Beren, Rhydyclafdy 01758 740233.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Geraint