IrisWILLIAMSYn dawel yn ei chartref, nos Iau 26ain o Fai yn 80 mlwydd oed hunodd Iris, Heol y Wawr, Pentremeurig, Caerfyrddin. Ffrind gorau a gwraig gariadus Eirwyn, mam annwyl a gofalgar Rhian, Rhys a Nerys, mam-yng-nghyfraith hoff Iwan, Elin a BJ, mam-gu balch a chariadus Gruff a Heti, Efa ac Anaya, Nansi, Anni a Loti, chwaer gariadus Windsor a'i diweddar frodyr a chwiorydd. Angladd ddydd Mercher 15fed o Fehefin 2022. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth am 12.15y.p. Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Uned y Byddar, Canolfan Elfed, Ysgol QE High; Apêl Hosbis Tŷ Cymorth neu Tîm Nyrsys Cymunedol Meddygfa Furnace House trwy law Glanmor Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 237100
Keep me informed of updates