Claire LouiseWILLIAMSMedi'r 1af 2022. Yn frawychus o sydyn yn ei chartref, Tyn y Ffrwd, Penrhyndeudraeth yn 32 mlwydd oed. Mam gariadus a gofalus i Mia; merch amhrisiadwy Keith a Gill; chwaer a ffrind gorau Karina; partner ffyddlon Sion; ŵyres annwyl i Huw a Ceinwen, a'r ddiweddar Tol a Pam; nith arbennig i'w holl ewythyrod a'i modrybedd; cyfnither agos i'w holl chefndryd a chyfnitherod. Bydd yn golled fawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Nazareth, Penrhyndeudraeth ar ddydd Iau Medi'r 15fed 2022 am 12.30y.p. ac yna i ddilyn yn Amlosgfa Bangor am 2.30y.p. Byddai'r teulu yn hoffi i chi wisgo rhywbeth piws. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion er cof am Claire tuag at Diabetes UK trwy law yr ymgymerwyr Heol Dulyn, Tremadog Gwynedd LL49 9RH 01766 512091
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Claire