Dr Raymond StaintonWILLIAMS1 Ionawr, 2023. Yn dawel yn ei gwsg, ac o Tros y Gors Isaf, Waunfawr, yn 78 mlwydd oed. Priod annwyl Laura, a thad arbennig Gwyndaf a Gerallt; tad-yng-nghyfraith addfwyn Karen a Kathy, taid cariadus Owain, Megan a Tomos, a brawd hoff i Ken a'i briod Ann, hefy brawd-yng-nghyfraith ffyddlon Richard a Buddug, a Gwen a Malcolm. Angladd brynhawn Mercher, 25 Ionawr, 2023. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am hanner dydd. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at Dementia UK. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates