GwynforWILLIAMSParchedig, Ionawr 14, 2023 Yn annisgwyl yn Ysbyty Gwynedd Bangor yn 90 mlwydd oed. Priod annwyl y ddiweddar Katie May; tad cariadus a charedig Eurgain a Delyth; tad-yng-nghyfraith John a'r diweddar Meic; taid balch Angharad ac Euros, Mared, Osian ac Adelina, ac Owain; hen daid tyner Iwan, Deio, Hana a Sophie; ewythr hoffus Dafydd a Carys, gŵr bonheddig a Bugail Da. Colled drist i'w deulu a'i ffrindiau oll. Angladd ddydd Llun, Ionawr 30, 2023. Gwasanaeth cyhoeddus yn yr Eglwys Bresbyteraidd Castle Square, Caernarfon am 11.30 o'r gloch gan ddilyn yn breifat i'r teulu ar lan y bedd ym Mynwent Eglwys Santes Helen, Penisarwaen. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof tuag at Sefydliad y Galon Brydeinig (British Heart Foundation). Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates
Add a tribute for Gwynfor