EllenWILLIAMSMawrth 1 2023 Hunodd yn dawel yng nghwmni ei theulu, o Rhos, Malltraeth gynt o Bryn Awel, Bryngwran yn 91 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Robert Arthur, mam gariadus a gofalus Joyce a Derek, Elaine a Chris a'r diweddar Melfyn a'i gymar Eirlys, nain Bryngwran arbennig a hwyliog i Rhys a Collette, Mathew, Siôn a Tayler, Alex a Martha, a hen nain balch i Mari, Elen ac Osian. Angladd dydd Iau, Mawrth 9. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Gorffwys Preswylfa, Fali am 10.30 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Plwyf Berffro. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ymchwil Canser trwy law: Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Ellen