Dorothy ElisabethWILLIAMSIonawr yr 11eg 2024. Hunodd yn dawel yn Ysbyty Gwynedd wedi gwaeledd byr ac o Bryncroes, Pontllyfni yn 76 mlwydd oed.
Priod annwyl Edgar, mam garedig Wenna a'i chymar Aled, Gareth a'i briod Sian, nain falch Elis, Tomi a Guto, chwaer Huw a'i briod Nerys, cyfnither, modryb a ffrind i lawer.
Angladd ddydd Iau, Ionawr 25ain. Gwasanaeth cyhoeddus yn Festri Brynaerau M.C. Pontllyfni am 1 o'r gloch y prynhawn ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Brynaerau.
Blodau'r teulu agosaf yn unig, os dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Dorothy at Gronfa Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru naill ai ar y plat offrwm yn y Festri neu drwy law'r ymgymerwr. Sieciau yn daladwy i H.J. Jones "Donations Account" os gwelwch yn dda.
Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER Ffon 01286 660365
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Dorothy