Henri ReesWILLIAMSHarry Bach / Harry Pen-y-Weun (Cefneithin gynt)
Yn dawel ar brynhawn Mawrth Tachwedd 19eg 2024, yn 87 oed, bu farw Harry o Heol Capel Ifan, Pontyberem.
Priod hoff a ffyddlon y diweddar Mali, tad cariadus a chefnogol Allison, Gareth ac Emyr, tad-cu a hen dad-cu annwyl, tad yng nghyfraith diffuant a brawd mawr i Gill (Pontiets).
Gwasanaeth cyhoeddus yng nghapel Y Tabernacl, Cefneithin am 2.30 o’r gloch ddydd Gwener y 13eg o Ragfyr 2024.
Dim blodau. Rhoddion, os y dymunir, tuag at Ward Gofal Strôc Ysbyty Llanelli ac Ymchwil Canser y Prostate, trwy law O.G. Harries Cyf. Trefnwyr Angladdau, Bethel, Heol yr Orsaf, Pontyberem, Llanelli, SA15 5LF - (01269) 870350.
Dymuna'r teulu ddiolch am bob arwydd o gariad a chydymdeimlad yn ystod y cyfnod anodd hwn
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Henri