Edith ElizabethWILLIAMSGynt o 26 Lluest, Ystradgynlais, hunodd yn dawel fore dydd Sul y Pasg, Ebrill 5ed, yn Ysbyty Tywysog Charles, Merthyr Tudful ar ôl salwch byr. Yn 77 oed.
Merch hoff y diweddar Henry John a Gwladys Williams, chwaer gariadus i John, Wynford, Ann, Adrian ac Eifion, chwaer yng nghyfraith hyfryd i Helen, Tim, Fengxian, Linda a Debra, modryb annwyl i Jessica, Megan, Chikondi, Gareth a Hannah, Rhys a Hannah a Catrin a Tom,a hen fodryb falch iawn i Henry, Philip, Eleanor, Jessica ac Evelyn
Angladd gyhoeddus yng Nghapel Yorath, Cwmgïedd, ddydd Mercher, 29ain Ebrill am 1.00 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym mynwent Yorath.
Os dymunir, rhoddion yn lle blodau i'r Community Car yn Ystradgynlais.
Trefnydd angladdau
Wynford Thomas and Son Funeralcare
61 Commercial Street
Ystalyfera
SA9 2HU
Tel: 01639842422
Keep me informed of updates