OwenWILLIAMSYn dawel yng nghwmni ei deulu, bu farw Owen Williams, (Now Hirdre Fawr) ar Hydref 1af yn 83 mlwydd oed. Gwr ffeind ac annwyl i Ann, tad caredig Robert a'i briod Annwen a Bethan a'i phriod Irfon, taid balch Now, Gwenlyn, Elan, Anni, Guto a Nan. Brawd agos i Griff, brawd yng nghyfraith, ewythr a ffrind hapus ac annwyl i lawer.
Ar dydd Sadwrn, Hydref 17eg cynhelir gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Tudweiliog am 11 o'r gloch, ac i ddilyn yn y fynwent.
Blodau gan y teulu yn unig ond os dymunir, derbynnir rhoddion tuag at Nyrsus Cymunedol a Tŷ Doctor Nefyn trwy law'r ymgymerwyr. G.W. Parry a'i Fab, Gallt y Beren, Rhydyclafdy, Pwllheli. 01758 740233
Keep me informed of updates