SarahWRENCHWRENCH - SARAH. Dymuna Tom, Gareth, Bethan ac Eirian a'r teulu oll ddiolch yn fawr am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth trist o golli gwraig, mam, nain, chwaer, chwaer yng ngyfraith, modryb a ffrind annwyl. Diolch am yr holl ymweliadau, galwadau ffon, cardiau a rhoddion hael. Diolch yn arbennig i'r Parchedig Christopher J. Prew am ei ymweliadau cyson ac am ei wasanaeth ddydd yr angladd. Diolch hefyd i'r Parchedig Robert Parry, Wrecsam a Glyn Roberts yr organydd am eu cyfraniad yn ystod y gwasanaeth. Diolch i Ganolfan Iechyd Cricieth, Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen am eu gofal a'u caredigrwydd, ac yn olaf, diolch i'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths am eu trefniadau hynod o ofalus a theimladwy.
Keep me informed of updates