Emrys LlewelynJONESDymuna Mari a theulu'r diweddar Emrys Llewelyn Jones, Arllechwedd, Ffordd Bangor, Caernarfon ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gŵr a brawd arbennig. Diolch am yr holl gardiau, galwadau ffôn ac ymweliadau, a diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Emrys tuag at y clinigau hynny a wnelynt â chlefyd siwgr a lymphoedema dan ofal Hafan Iechyd. Diolch yn arbennig i'r meddygon a'r nyrsys yn Hafan Iechyd am eu gofal o Emrys. Diolch heyfd i Eifion Harding, Bryn Fôn a Mrs Christine Edwards, yr organyddes, am eu cyfraniad ddiwrnod yr angladd, ac i Iolo a'r criw yn Roberts & Owen am eu gofal a'u trefniadau trylwyr. Diolch i bawb.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Emrys