Agnes MaryROBERTSROBERTS - AGNES MARY. Frongaled, Dyffryn Ardudwy. Hunodd yn dawel yng nghwmni ei theulu ar y 3ydd o Ragfyr 2015 yng Nghartref Nyrsio Cerrig yr Afon, Y Felinheli, yn 80 mlwydd oed. Priod gariadus y diweddar Hughie; mam a mam yng nghyfraith ofalus a thirion Gwenda ac Eurwyn, Alwen a Llion, Eifion ac Alison; nain hwyliog a balch Huw a Dafydd, Elis a Meredydd, Ben a Sam; chwaer annwyl y diweddar William. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Horeb, Dyffryn Ardudwy, ar ddydd Sadwrn y12fed o Ragfyr am 11:00 y bore ac yna i ddilyn ym Mynwent Newydd Dyffryn Ardudwy. Blodau teulu yn unig, ond os dymunir, derbynnir rhoddion er cof tuag at Ymchwil Cancr, Meddygfa Waunfawr a Chronfa Cerrig yr Afon trwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf., Stryd Dulyn, Tremadog. Ffon - 01766 512091.
Keep me informed of updates