KatherineJONES10fed o Ebrill 2026. Yn dawel yn ei chartref yn Bay View Road, Benllech yn 77 mlwydd oed. Annwyl briod Russell. Mam gariadus Dewi, Dylan a Gareth. Mam yng nghyfraith hoffus Kim a Katy. Nain falch Bethany, Ela, Cai, Abigail a Gabriel. Annwyl chwaer Glyn a Dafydd. Bydd colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Libanus, Benllech ar ddydd Mercher, 29ain o Ebrill 2026 am 11 y bore.
Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Katherine tuag at 'Alzheimer's Research UK' - sieciau yn daladwy i 'R & J Hughes and Son Ltd' neu drwy ein gwefan www.rjhughesandson.co.uk.
********
10th April 2026. Peacefully at her home in Bay View Road, Benllech, aged 77 years. Beloved wife of Russell. Loving mother of Dewi, Dylan and Gareth. Fond mother-in-law of Kim and Katy. Proud grandmother of Bethany, Ela, Cai, Abigail and Gabriel. Dear sister of Glyn and Dafydd. Katherine will be sadly missed by her family and friends.
Public service at Libanus Chapel, Benllech on Wednesday, 29th April 2026 at 11am.
Family flowers only, but donations will be gratefully accepted in memory of Katherine towards Alzheimer's Research UK - please make cheques payable to 'R & J Hughes and Son Ltd' or via our website www.rjhughesandson.co.uk. Ymholiadau a rhoddion drwy law yr ymgymerwyr / Enquiries and donations care of the funeral directors R & J Hughes and Son Ltd, Capel Penuel Chapel, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Mon, LL77 7EF. Ffôn / Tel: 01248 723 497.