Mary WynneJONESTristwch yw cyhoeddi marwolaeth Mary Wynne Jones, yn ei chartref yn Nolgellau. Gweddw'r diweddar Barchedig Tom Ellis Jones, Mam a Mam yng Nghyfraith i Emyr a Bronwen, ac Arwel a Lowri, Nain/Mamgu i Steffan, Gethin, Rhodri, Gwion a Sion, a Hen Nain i Alys ac Ioan. Angladd breifat yn unol â'i dymuniad. Hedd perffaith hedd. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar, os dymunir, tuag at Gartref Glyn Nest, a Gwasanaeth Nyrsys Cymunedol Dolgellau a'r Cylch trwy law Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, 5 Rhes Eldon, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1PY. Ffôn: 01341 422 322.
Keep me informed of updates