GarethRICHARDSRICHARDS - GARETH, yn 74 mlwydd oed, ac o Rhosllanerchrugog, hunodd ddydd Sul, Ebrill 30ain, yn dawel yng nghwmni ei deulu. Bu farw Gareth ar ward Bedwen, Ysbyty'r Maelor, Wrecsam. Gwr annwyl Anita a brawd a brawd yng nghyfraith teyrngar i Elfyn a Gwenda. Bydd hiraeth mawr a chreulon ar ei ol. Gwasanaeth angladd cyhoeddus yng nghapel Bethel, Ponciau, Dydd Mercher, Mai 10fed am 1 o'r gloch, ac yn dilyn yn amlosgfa Pentre Bychan am 2 o'r gloch. Ymholiadau i N. Lucy ac C. Tattum, 37 Stryd Y Farchnad, Rhos, ffon : 846519.
Keep me informed of updates