Nancy GwendolineDAVIESYn dawel ar ddydd Gwener Mai 29ain 2026 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin hunodd Nancy, Nurseries, Maesllyn, Llandysul yn 102 mlwydd oed. Chwaer annwyl y diweddar Doreen, Sidney, Gerald a Cecil; chwaer-yng-nghyfraith, modryb a cyfnither dyner ynghyd a ffrind parchus i'w chymuned.
Yn unol a dymuniadau a fynegwyd, cynhelir yr angladd yn Breifat yng Nghapel Gorffwys Afallon, Penrhiw-Pâl dydd Iau 11eg Mehefin 2026 am 11.00 o'r gloch ac yna rhoddir i orffwys ym Mynwent Capel Bwlchygroes, Llandysul.
Dim blodau ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymuner tuag at Ymchwil Canser Cymru trwy law yr
Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiwpal, Rhydlewis, Ceredigion SA44 5QH.
Keep me informed of updates