Bethan WynHUGHES23 Mai, 2026. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd yn dilyn gwaeledd hir, ond yn ddi-gŵyn, ac o 17 Dol Afon, Cwm y Glo, yn 46 mlwydd oed. Merch annwyl iawn Elisabeth a'r diweddar Francis Hughes, a chwaer garedig Nia; chwaer-yng-nghyfraith a ffrind hoff Dylan, a modryb gariadus Deian ac Osian. Bydd yn golled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau. Angladd brynhawn Mercher, 10 Mehefin, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Padarn, Llanberis am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Llanrug. Derbynnir blodau yn ddiolchgar er cof am Bethan, neu roddion, pe dymunir, tuag at elusennau lleol o ddewis y teulu. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates